#

 

 

 


Rhif y ddeiseb: P-05-795

Teitl y ddeiseb: Achosi Niwsans neu Aflonyddwch ar safleoedd y GIG

Testun y ddeiseb: Creodd A119 o’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 bwerau i ddelio â phobl sy’n achosi niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd y GIG. Ni chafodd hyn ei ddeddfu yng Nghymru, ac nid oes unrhyw ddarpariaethau i ddelio â phobl sy’n creu problemau ar gyfer y GIG yn y modd hwn.

Mae yna nifer o unigolion sy’n achosi problemau tra ar safleoedd y GIG, ac mae’r heddlu yn derbyn llawer o alwadau i ddelio ag ymddygiad o’r fath, ond nid oes unrhyw ffordd o ymdrin â’r mater hwn yn effeithiol gan nad oes trosedd benodol y gall yr heddlu ei defnyddio i atal pobl, heb fod ganddynt esgus rhesymol, sydd naill ai’n achosi aflonyddwch neu niwsans, yn gwrthod gadael yr adeilad pan ofynnir iddynt, neu nad ydynt ar y safle at ddiben cael cyngor, triniaeth neu ofal meddygol.

 

Cefndir - Ymdrin â niwsans ac aflonyddu

Cyflwynodd Deddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (CJIA) ddarpariaethau newydd sy’n rhoi’r pŵer i’r heddlu a’r staff sy’n gweithio yn y GIG symud ac erlyn unigolion sy’n achosi niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd y GIG.

Mae Adrannau 119 a 120 o’r Ddeddf hon yn cynnwys darpariaethau ar gyfer staff y GIG i ymdrin â niwsans neu aflonyddwch. Creodd Adran 119 drosedd newydd o achosi niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd y GIG. Mae Adran 120 yn rhoi pŵer i’r heddlu neu staff awdurdodedig y GIG symud rhywun y maent yn amau ei fod wedi cyflawni’r drosedd hon. Nid yw’r Ddeddf ond yn berthnasol i ysbytai’r GIG yn Lloegr.

Trosolwg o’r drosedd a’r pŵer i symud

Mae Adran 119 yn trafod y drosedd o achosi niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd y GIG. Bydd person wedi tramgwyddo os ydynt yn bodloni pob un  o’r meini prawf a ganlyn:

a) eu bod yn achosi, heb esgus rhesymol a phan eu bod ar un o safleoedd y GIG, niwsans neu aflonyddwch i aelod o staff y GIG sy’n gweithio yno neu sydd fel arall yno mewn cysylltiad â’u gwaith, a

b) bod y person yn gwrthod, heb esgus rhesymol, adael un o safleoedd y GIG pan ofynnir iddo wneud hynny gan gwnstabl yr heddlu neu aelod o staff y GIG, a

c) nid yw’r person ar un o safleoedd y GIG er mwyn cael cyngor meddygol, triniaeth neu ofal i’w hun.

Mae Adran 120 yn rhoi pŵer i gwnstabliaid yr heddlu, swyddogion awdurdodedig (ac aelodau staff priodol y GIG a awdurdodwyd gan swyddog awdurdodedig) symud person y maent yn amau’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan Adran 119. Gellir symud person o’r safle gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen. Ni all swyddog awdurdodedig symud person (neu awdurdodi person arall i wneud hynny) os ydynt yn credu bod angen cyngor, triniaeth neu ofal meddygol arno, neu os ydynt yn credu y byddai symud y person hwnnw yn peryglu ei iechyd corfforol neu feddyliol.

Y staff allweddol sy’n gysylltiedig â gweithredu’r darpariaethau hyn yw’r Swyddogion Awdurdodedig, sydd â’r rôl o asesu digwyddiad ac awdurdodi symud personau y maent yn amau eu bod wedi cyflawni trosedd, a Staff priodol y GIG, sydd â’r rôl o symud troseddwr pan fyddant wedi’u hawdurdodi i wneud hynny.

Ym mis Mawrth 2012, cyhoeddodd y GIG yn Lloegr ganllawiau ar sut i weithredu darpariaethau’r CJIA Guidance on provisions to deal with nuisance or disturbance behaviour on NHS premises in England‘ (Saesneg yn unig).

Ymateb Llywodraeth Cymru

Creodd adran 119 o’r CJIA drosedd newydd yn erbyn y drefn gyhoeddus o achosi niwsans neu aflonyddwch i aelod o staff y GIG. Ni ellir carcharu unrhyw un am y drosedd hon, ond gall arwain at ddirwy sydd ag uchafswm o £1,000. Daeth yr adran hon i rym yn Lloegr ar 30 Tachwedd 2009. Byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Gorchymyn Cychwyn i roi adran 119 ar waith yng Nghymru.

Yn ei ymateb i’r ddeiseb hon, a ddaeth i law ar 11 Rhagfyr 2017, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi ei fod yn ystyried ar hyn o bryd a yw hi bellach yn briodol rhoi Adran 119 ar waith yng Nghymru drwy gyhoeddi Gorchymyn Cychwyn. 

Trafodaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddodd Pwyllgor Archwilio y Cynulliad Cenedlaethol ei adroddiad ‘Trais ac Ymddygiad Ymosodol yn y GIG ym mis Gorffennaf 2009.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae gan Fyrddau Iechyd yng Nghymru ddyletswydd i amddiffyn staff rhag niwed yn y gweithle. Mae gan y GIG rwymedigaeth gyfreithiol i nodi’r risg o drais ac ymddygiad ymosodol a datblygu strategaethau priodol i ymdrin â’r risg hon.

Mae’r ffigurau a gafwyd gan y Coleg Nyrsio Brenhinol drwy Gais Rhyddid Gwybodaeth yn dangos y bu 18,000 o ymosodiadau corfforol yn erbyn staff mewn ysbytai’r GIG yn ystod cyfnod o bum mlynedd rhwng 2011 a 2016.

Cafodd yr Assaults on Emergency Workers (Offences) Bill (Saesneg yn unig), sef Bil Aelod Preifat gan Chris Bryant AS, ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ar 19 Gorffennaf 2017. Y cam nesaf fydd y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 27 Ebrill 2018. Mae’r Bil yn creu trosedd newydd o ymosodiad a churo yn erbyn gweithiwr argyfwng (gan gynyddu’r gosb hyd at uchafswm o 12 mis yn y carchar), ac mae hefyd yn creu ffactor gwaethygol statudol a fydd yn berthnasol yn achos ymosodiadau eraill a throseddau cysylltiedig yn erbyn staff y gwasanaethau brys.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ym Mhapur Briffio Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin (Saesneg yn unig).